Gwybodaeth am ORIEL Y GADER
Dewch o hyd i Oriel y Gader dros ddau lawr uwchben salon gwallt adnabyddus MONCRIEFFE yn Nolgellau. Syniad Meinir a Laurence Moncrieffe oedd agor Oriel y Gader. Gyda chefndir yn y maes celf, roeddynt yn awyddus i greu rhywbeth fyddai’n cefnogi artistiaid lleol ac yn cynnig gofod pwrpasol a modern iddynt arddangos eu gwaith.
“Mae harddwch dramatig tirwedd Gogledd Cymru, ei glannau a’i mynyddoedd, yn ysbrydoliaeth i’r holl artistiaid yn Oriel y Gader. Bydd yr Oriel yn cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn drwy Wynedd a’r gogledd. Mae’n brosiect cyffrous iawn ac yn gyfle i bobl brynu gweithiau celf gwreiddiol a thrawiadol sy’n cyfleu peth o ysbryd y wlad hon.” Meinir Moncrieffe




